Cylchgrawn Barn's Avatar

Cylchgrawn Barn

@cylchgrawn-barn

BARN pobl Cymru mewn cylchgrawn Cymraeg misol. Celfyddydau. Gwleidyddiaeth. Gwin. Gwyddoniaeth. Llyfrau a mwy.

378
Followers
210
Following
94
Posts
20.11.2024
Joined
Posts Following

Latest posts by Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn

Post image

Yn ei golofn wleidyddol y mis hwn, mae @richardwynjones.bsky.social yn palu’n ddyfnach i hanes diweddar y Blaid Lafur yn San Steffan, gan gymharu heriau llywodraethol presennol Keir Starmer â’r anawsterau a wynebwyd gan Boris Johnson o’i flaen. ✍️
Cewch flas o holl gynnwys y rhifyn yn 🔗 barn.cymru.

08.03.2026 18:38 👍 0 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image Post image Post image

Yn dilyn crasfa ddiweddar Llafur yn isetholiad Gorton a Denton, mae tri Llafurwr – Robert Smith, Carys Stallard a D. Ben Rees – yn ymateb i’r rhagolygon barn diweddar sy’n darogan chwalfa hanesyddol i’r blaid yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai. Rhifyn Mawrth Barn
#gwleidyddiaethcymru #llafurcymru

06.03.2026 20:00 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Dydd Gŵyl Dewi hapus! 🌼✨
Mae rhifyn mis Mawrth allan nawr - mynnwch eich copi. Mae’n llawn straeon difyr ac amserol i gnoi cil arnynt am y mis i ddod!

01.03.2026 20:43 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Darllenwch Barn yn unrhyw le!
Tameidiau blasu o holl erthyglau’r rhifyn diweddaraf a dwy erthygl gyfan yn rhad ac am ddim ar 🔗 barn.cymru

Tanysgrifiwch - £35 am ddigidol yn unig a dim ond £50 am brint a digidol.

#gwefanBarn #gwefannewydd #darllenamddim #Barnyndyboced #tanysgrifio

22.02.2026 18:19 👍 1 🔁 2 💬 0 📌 0
Post image

Darllenwch am brofiad Iwan Roberts o dderbyn diagnosis hwyr o awtistiaeth, a pha mor drawsnewidiol fu hyn iddo, yn ei erthygl bersonol ac onest yn rhifyn Chwefror Barn. ✍️

#awtistiaeth #niwrowahaniaeth #diagnosishwyr #iechydmeddwl

22.02.2026 18:15 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Wedi clywed am Enoch Burke? Mae ei helyntion ef a’i deulu wedi hoelio sylw Iwerddon ers misoedd lawer, a Bethan Kilfoil sy’n ein tywys ni drwy’r saga yn y rhifyn diweddaraf. Y tro yma, ei ddaliadau am y defnydd priodol o ragenwau sydd wedi achosi’r cythrwfl 🔗 barn.cymru #darllenamddim #iwerddon

22.02.2026 18:13 👍 1 🔁 4 💬 0 📌 0
Post image

Yn ein hadran goffáu y mis yma, mae Gruffydd Aled Williams a Betsan Powys yn cofio ac yn trafod cyfraniad mawr Hazel Walford Davies fel ysgolhaig, awdur, darlithydd a hyrwyddwr brwd dros addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Darllenwch eu teyrngedau yn rhifyn Chwefror.

22.02.2026 18:10 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Darn amserol gan Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr Morlais- cynllun ynni llanw @menter_mon -ar beth all cynlluniau ynni gwynt ei gynnig i gymunedau Cymru. Daw hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar am ddau gynllun newydd oddi ar arfordir Cymru. 🌊 🔗 barn.cymru #MaterionYMis #SectorYnniGwyrdd

10.02.2026 17:51 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Yn rhifyn Chwefror, mae Menna Baines yn holi’r artist tecstiliau Hâf Weighton am ei harddangosfa newydd a hefyd yn rhoi sylw i Noah Bakour, gwneuthurwr ffilm ifanc o Syria sydd wedi cydweithio gyda Hâf ar y prosiect. Canolfan Grefft Rhuthun tan 22 Mawrth.

06.02.2026 17:54 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Darllenwch Barn yn unrhyw le! Ewch draw i’n gwefan i bori, a thanysgrifio am flwyddyn o gynnwys difyr! 🔗 barn.cymru

Tameidiau blasu o bob erthygl, a dwy erthygl gyfan yn rhad ac am ddim. £50 am brint a digidol, a £35 am ddigidol yn unig
#darllenamddim #Barnyndyboced #tanysgrifio

06.02.2026 17:51 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image Post image Post image

Mae #ErthyglauLlafar parhau! Mis yma, mae’r cyfranwyr sy’n darllen yn cynnwys👉Elinor Wyn Reynolds, Mared Gwyn, Iwan Roberts, Simon Brooks ac Angharad Tomos. Diolch yn fawr i chi ac i #llyfraullafar yn y de a #ChymdeithasDeillionyGogledd am ein helpu! 🙏 Rhannwch, a helpwch ni i ledaenu’r gair!

06.02.2026 17:47 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Gyda llywodraeth Lafur San Steffan ar ganol un o’r cyfnodau anoddaf ers iddynt ddod i rym, edrych ar yr her sy’n eu hwynebu yma yng Nghymru y mae ein colofnydd gwleidyddol @richardwynjones.bsky.social, gydag etholiad y Senedd yn nesáu. Darllenwch ei erthygl yn rhifyn Chwefror. #senedd2026

06.02.2026 17:40 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Yn rhifyn Chwefror, mae Menna Baines yn holi’r artist tecstiliau Hâf Weighton, ac yn rhoi sylw i Noah Bakour, gwneuthurwr ffilm ifanc o Syria a ddaeth i Gymru fel ffoadur ac sydd wedi cydweithio gyda Hâf ar ei phrosiect diweddaraf - Y Stryd Fawr.

Yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan 22 Mawrth. 🖼️ 🎥

02.02.2026 19:19 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

Mae rhifyn diweddaraf Barn allan!

🖼️ Yr artist tecstiliau Hâf Weighton sydd ar y clawr, a’r tu mewn mae hi’n trafod ei gwaith diweddaraf gyda Menna Baines.

Hyn, a llawer mwy, yn rhifyn mis Chwefror. Prynwch gopi neu ewch i’w ddarllen arlein yn 🔗 barn.cymru

01.02.2026 20:48 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Cofiwch fod tameidiau blasu o holl erthyglau’r rhifyn i’w cael ar ein gwefan, yn ogystal â dwy erthygl gyfan yn rhad ac am ddim. Ewch i bori, a thanysgrifio! 🔗 barn.cymru

£50 am brint a digidol, a £35 am ddigidol yn unig

#gwefanBARN #gwefannewydd #darllenamddim #tanysgrifio

19.01.2026 17:36 👍 1 🔁 3 💬 0 📌 0
Post image

Mae’r artist Robyn Tomos yn ein tywys ni drwy ‘Portread a Phŵer’ - arddangosfa gelf newydd sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn y rhifyn diweddaraf. Yno hyd 30 Mai.

Darllenwch ei argraffiadau yn y cylchgrawn neu arlein yn 🔗 barn.cymru

#llyfrgellgenedlaetholcymru #llyfrgellgen #celfcymru

19.01.2026 17:34 👍 1 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image Post image Post image

Un o’r llu o lyfrau newydd sy’n cael sylw yn rhifyn mawr cyfredol BARN yw ‘Ynysoedd Gobaith’ gan Llion Wigley sy’n trafod mentrau a syniadau iwtopaidd yng Nghymru’r 20g. Peredur Lynch sy’n cyfweld â’r awdur. Pa mor berthnasol yw’r syniadau hyn heddiw?📚 @wigs24.bsky.social @gwasgprifcymru.bsky.social

12.01.2026 22:32 👍 3 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

✍️ Mared Gwyn, ein gohebydd yn Ewrop, sy’n trafod gwleidyddion adain dde Ewrop yn ei cholofn, ac yn benodol Viktor Orbán – ‘dafad ddu’r Undeb’ fel mae hi’n ei alw. Hyn a mwy yn ein rhifyn swmpus diweddaraf sydd ar werth tan ddiwedd y mis. 🔗 barn.cymru @maredgwyn.bsky.social

11.01.2026 18:38 👍 2 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image Post image Post image

🎧 Cofiwch am fenter newydd BARN i ddarparu detholiad o’r rhifyn ar ffeil sain am ddim. Os oes gennych chi, aelod o’ch teulu neu ffrind ddiddordeb yn y cynnig yma, cysylltwch â swyddfa@barn.cymru

Trwy garedigrwydd #llyfraullafar #cymdeithasydeillion

11.01.2026 18:30 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image Post image

Mae gwledd o erthyglau difyr yn rhifyn Rhagfyr/Ionawr @cylchgrawn-barn.bsky.social, gan gynnwys sylw gan Peredur Lynch, Prys Morgan a Jerry Hunter i dri o gyfrolau GPC.

📚Ynysoedd Gobaith
📚Thomas Pennant
📚Lliaws Rhith

Mynnwch gopi o'r llyfrau hyn, a chylchgrawn Barn, yn eich siop lyfrau leol!

09.01.2026 15:35 👍 5 🔁 3 💬 0 📌 0
Post image Post image

Yn y rhifyn diweddaraf, mae @richardwynjones.bsky.social yn sylwebu ar ymateb y wasg i gyllideb yr hydref. Mae’r erthygl ar gael i’w darllen am ddim ar ein gwefan. Ewch i barn.cymru i ddarllen ei argraffiadau. ✍️

#ygyllideb
#darllenamddim 🔗 barn.cymru

07.01.2026 20:18 👍 2 🔁 4 💬 0 📌 0
Post image Post image

Yn ôl ein harfer, mae dwy erthygl *am ddim* ar ein gwefan mis yma. Erthygl gan Huw Griffiths am raglen addysg #AcademiSeren Llywodraeth Cymru yw un, lle mae’n amlinellu ei bryderon. Ewch i barn.cymru i’w darllen. Tameidau blasu o’r gweddill yno hefyd. #darllenamddim

07.01.2026 20:15 👍 2 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image Post image

Mae Erin Owain, ymgynghorydd ym maes addasu i newid hinsawdd, yn ymateb i’r gynhadledd COP30 a gynhaliwyd ym Mrasil ddiwedd y flwyddyn, yn rhifyn diweddaraf BARN.

Cliciwch i danysgrifio ar ein gwefan 🔗 barn.cymru

07.01.2026 20:13 👍 3 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Darllenwch argraffiadau ein tîm edrych yn ôl ar 2025 yn ein rhifyn diweddara - Meg Elis (llên a llyfrau), John Roberts (crefydd), y campau (Lowri Roberts) a’r hinsawdd (Hywel Griffiths). Dyna bedwar o’r myrdd o resymau i ddarllen barn.cymru
Tanysgrifiwch!

07.01.2026 20:11 👍 1 🔁 1 💬 0 📌 0
Post image

✍️ Guto Harri sy’n cloriannu 2025, y flwyddyn wleidyddol, yn ein rhifyn diweddaraf.

Blas o hyn a gweddill y cynnwys ar ein gwefan 🔗 barn.cymru

07.01.2026 20:08 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Mae ein colofnydd teledu yma i’ch helpu i benderfynu beth i’w wylio ar y bocs dros y gwyliau.

Mae ‘Y Crwydryn’ sydd ar S4C heno yn rhaglen werth ei gwylio meddai Elinor Wyn Reynolds. 📺 🎄

26.12.2025 19:44 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Hysbysebion Nadolig y siopau mawr ydi pwnc ein colofnydd Elin Llwyd Morgan yn y rhifyn cyfredol. Ac eleni mae ‘na elfen Gymreig i un ohonynt...

Hyn a bron i 100 tudalen o ddarllen difyr gan yr ysgrifenwyr gorau yn y rhifyn tew. Cewch flas o’r cyfan ar ein gwefan: 🔗 barn.cymru

22.12.2025 17:03 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image

Cofiwch fachu copi o rifyn diweddara BARN am argymhellion ein colofnydd gwin am y bybls gorau o dan £20. Croeso. Iechyd da! 🍾🥂✨🎄

Gallwch anfon eich cwestiynau gwin at Shon William: williamsshon@ymail.com

✍️ Shôn Williams

22.12.2025 17:00 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Video thumbnail

✨Rydym wrth ein boddau bod stori fer newydd sbon gan Andrew Teilo yn y rhifyn diweddaraf! Dyma damaid i aros pryd…

🎧 Mae’r stori hefyd ar gael mewn fformat sain, fel rhan o’n menter #erthyglaullafar newydd. Mwy o wybodaeth gan swyddfa@barn.cymru

🎄Rhifyn dwbl Dolig yn y siopau rŵan!🎄 barn.cymru

16.12.2025 17:10 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0
Post image Post image

GWRANDEWCH! 🎧 Mae detholiad o erthyglau o’r rhifyn dwbl diweddaraf ar gael mewn fformat sain - AM DDIM.

Os hoffech chi, aelod o’ch teulu neu ffrind dderbyn y fersiwn sain, cysylltwch â ni yn swyddfa@barn.cymru

Diolch i #llyfraullafar a #cymdeithasydeillion am eu cymorth gyda’r fenter hon.

16.12.2025 17:04 👍 0 🔁 0 💬 0 📌 0