Hyfryd ym Morfa Bychan
@mergj
Nain lawen. Gen i deulu gwych cefnogol. ME ers ‘93. Beth gwell ers 2007 (moderate/severe). Cyd-ofalu am Mam sy gydag Alzheimer’s hefo mrawd a chwaer #AngylionMagiMw Caru darllen, LFC, Denver Broncos a phêldroed ffantasi. A ma’ Iesu G yn ffrind ffyddlon.
Hyfryd ym Morfa Bychan
Hollol wych. Newydd wrando’r ddau episod o’ch sgwrs gyda Noel a Sian. Arbennig.
Proud. Loved this season.
Pawb yn aros yn rhywle ar eu pennau eu hunain tu allan i’r Castell dwi di gael ar ddeall ag yn dod nol yn y bore.
Mae pawb yn mynd ffwrdd i’w llety unigol eu hunain dros nos ag felly ddim yn y Castell i weld dim.
Neis câl hi’n braf.
😂
Hên bryd.
Y ddau arall oedd yn yr un ‘stafell â fi ond dim fi!
Noson ardderchog hefo @siongoronwy.bsky.social yn Theatr Fach Llangefni yn gwylio’r wyresi/nithod yn y Pantomeim Jac a’r Jereniym. Llwyth o hwyl.
Cwestiwn da.
Symio fyny’r hurtrwydd i’r dim! Er dwinne ‘di ildio i “deal” 1/2 pris am Alecsa o’r diwedd. #AngylionMagiMw yn meddwl gallai fod yn ddefnyddiol ddiddanu Mam. Mor hoff o gerddoriaeth a haws dod o hyd i ganeuon at ei dant fel hyn. Ag wrth gwrs ma ganddi ei chanwr opra personol @siongoronwy 🤣
Argoeli’n fwy gobeithiol y caiff #AngylionMagiMw fynd am ein cinio ‘dolig cynnar i’r Llew Gwyn. Niwl iasoer ddoe wedi diflannu.
😁
Y golau yn taro yn gynnes ar y tirwedd a’r adeiladau.
Dyna draeth hyfryd.
Diolch am ddysgu ein iaith.
Dyna un o’r pethau da am y gaeaf - eistedd o flaen tanllwyth o dân.
Ew am fore oer. Wastad yn pan ma nghar i angen mynd am MOT. Diolch am @siongoronwy.bsky.social fynd â fo lawr wir. Ma niwl y llyn yn y dre yn mynd drwyddai fwy na niwl mynydd yn y topie ‘ma! Gan obeithio bydd yr heulwen torri trwodd cyn hir.
Dwi’n gallu arogli’r awyr iach yne jyst drwy edrych ar y lluniau. Dyne ardal arall hynod dlws a’r lluniau yn dal eu harddwch.
Yden. Mae hi yn sir hynod hardd. Oedden ni dweud run peth wrth deithio gyda llyn Tegid o’r dre am gyfeiriad Dolgellau ddoe. Er ar stepen ein drws byth yn blino ar yr olygfa. A ma hi’n wahanol o ddydd i ddydd neu o few diwrnod hydnoed dibynnu ar y tywydd, ansawdd y golau ag ati.
Ffwjin grêt yma!
Hyfryd.
Pnawn bendigedig gydag @siongoronwy.bsky.social a Mam ddoe ar ein ffordd at y deintydd yn Port. Gan ei bod mor braf aethom y ffordd hir rownd trwy Bermo a Harlech. Mae Bermo yn hyfryd yn y gaeaf a’r golygfeydd o’r traeth gymaint gwell heb yr holl geir a phobl a gwynt y môr yn adfywio #AngylionMagiMw
Yndi mae’n ardderchog. Dwi wedi cael pleser mawr o wrando’r Llyfrau llafar dros y blynyddoedd.
Waw
Diolch am y fidio hon. Thank you video creators & contributors #ME
Mae’r mynyddoedd yn drawiadol.